Yn cynnwys: Crissy Rock (Benidorm), Leah Bell (Stage Award Winner), Vanessa Karon and Paul Dunn.
Merched glanhau “steil vintage” ydi Gladys, Olive ac Elsie sy’n wynebu bygythiad o golli eu swyddi ac sy’n mentro dilyn llwybr ‘anghonfensiynol’ i ennill rhywfaint o arian ychwanegol. Mae rhif anghywir sy’n gofyn am Linell Sgwrsio Rhyw yn ffonio’r swyddfa ac yn rhoi syniad gwych iddyn nhw… “Beth am ddechrau eu Linell Sgwrsio Rhyw eu hunain?” Wedi’r cyfan, ’fydd eu hoedran na’u hymddangosiad ddim yn bwysig dros y ffôn a chyn belled â’u bod nhw’n gallu cadw hyn yn gyfrinach rhag Dave, eu bos… fe allen nhw fod ar eu hennill yn fawr! Beth allai fynd o’i le?
Wedi'i ysgrifennu gan Ed Waugh a Trevor Wood, mae'r cynhyrchiad yma’n cael ei gyfarwyddo gan Leah Bell, sy'n ychwanegu dull ffres a bywiog at y ddrama eithriadol ddoniol yma ynghyd â'i steil comig unigryw ei hun.



