Sioe gyda thrac sain epig – ymunwch â ni wrth i ni ddathlu’r gorau mewn sioeau cerdd ffilm gwobrwyedig – gyda lleisiau rhagorol gan enillydd Britain’s Got Talent – Jai McDowall a Vinnie McKee, a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent, ynghyd â dwy gantores fenywaidd anhygoel a choreograffi syfrdanol gyda’n tîm o ddawnswyr – gwisgoedd bywiog a lluniau fideo gwych.
Bydd ein cast anhygoel yn cyfareddu’r gynulleidfa gyda threfniannau gwreiddiol, harmonïau gwych a lleisiau sy’n gyrru ias i lawr asgwrn y cefn – gwir ddathliad o’ch hoff sioeau cerdd sydd wedi’u troi’n ffilm. Dathliad o ganeuon o sioeau cerdd byd y ffilmiau, gyda chysyniad modern! Mae trac sain y sioe’n cynnwys ffilmiau eiconig fel: The Greatest Showman, Wicked, Mama Mia, Les Misérables, Phantom of the Opera, Moulin Rouge, A Star is Born, The Body Guard, Beauty & The Beast, West Side Story, Dear Evan Hanson a llawer mwy, gan gynnwys sioeau cerdd clasurol Hollywood!
Bydd y sioe yma sy'n llawn canu, dawnsio a chyffro’n gwneud i gynulleidfaoedd fod eisiau archebu dro ar ôl tro - mae hon yn mynd i fod yn noson allan Epig yn sicr!



