Fast Love – The Tribute to George Michael

See dates and times  

Yn syth o’r West End yn Llundain, dyma hoff ddathliad y byd o George Michael!

Fe fydd ein cast talentog ni’n ail-greu noson gwbl unigryw i chi!

Cyfle i greu atgofion newydd wrth ail-fyw hen glasuron - mae'r un yma ar gyfer y cefnogwyr wrth i ni ddathlu un o'r cerddorion gorau a welodd y byd erioed, ac rydyn ni’n dweud diolch!

Mae gan y sioe yma bopeth, y pŵer, yr emosiwn a'r ansawdd rhagorol yn y cynhyrchiad syfrdanol yma gyda sioe fideo a goleuadau lawn, wrth i ni ail-greu trac sain eich bywyd chi gyda pharch.

Yn chwarae’r caneuon eiconig i gyd, o Wham! bob cam hyd at ei yrfa unigol ddisglair, gan gynnwys, Wake Me Up, Too Funky, Father Figure, Freedom, Faith, Knew You Were Waiting, Careless Whisper a llawer mwy.

Fastlove: i’r cefnogwyr.