Lost in Music – Un Noson yn y Disgo!

See dates and times  

Camwch yn ôl i oes y peli gliter a’r grŵf – mae Lost in Music yn ôl gyda sioe newydd sbon yn llawn egni sy’n fwy, yn fwy beiddgar ac yn fwy disglair nag erioed!

Ymunwch â ni am noson wefreiddiol o anthemau disgo di-stop wrth i'n band byw syfrdanol ni, lleisiau pwerus, a chynhyrchiad bywiog ddod â hud y 70au yn ôl yn fyw. Teimlwch y rhuthr wrth i ni aildanio'r llawr dawnsio gyda chaneuon eiconig gan Donna Summer, Gloria Gaynor, Earth, Wind & Fire, Chic, Sister Sledge a llawer mwy.

Gwisgwch eich secwins, sianelu eich difa disgo mewnol a dathlu oes aur y byd disgo o’r newydd eto. O lawenydd heintus I Will Survive i egni ewfforig Le Freak
a Boogie Wonderland – fe fydd pob eiliad yn mynd â chi’n ôl i egni ac awyrgylch trydanol y cyfnod ac fe fyddwch chi’n teimlo'n dda.

Dyma’r dathliad disgo eithaf felly ewch amdani a mwynhau Lost in Music.