Griff Rhys Jones: The Cat's Pyjamas

Fiery Entertainment drwy drefniant gydag YMU yn cyflwyno

See dates and times  

Mae Griff Rhys Jones yn ôl ar y lôn gyda'r ail daith o'i sioe stand-yp newydd sbon hir-ddisgwyliedig, yn dilyn rhediad hynod lwyddiannus y llynedd.

Ymunwch â Griff wrth iddo rannu mwy o sylwadau doniol a straeon comig.

Mae'r sioe bob amser yn amrywio wrth i Griff fwydro am yr argyfwng cenedlaethol sy'n datblygu. Oedran. Teulu. Twyll. Hiraeth. Cenhedlaeth Tik Tok. Smyglo crocodeilod a nwdlo yn Awstralia. Teithio, cŵn, gwestai, diod a threnau hanner nos. Mae'n ateb cwestiynau gan y gynulleidfa ac yn mynd amdani wrth i bob sgwrs grwydro o un peth i’r llall.

Mae Cat's Pyjamas yn dilyn taith ryngwladol hynod lwyddiannus ddiwethaf Griff, All Over The Place, pryd bu’n perfformio i neuaddau llawn ledled y DU, Awstralia a Seland Newydd. Oddi ar y llwyfan, mae Griff yn fwyaf adnabyddus am ei ymddangosiadau dirifedi ar y teledu, gan gynnwys fel seren deg cyfres o Smith & Jones a chwarter o'r rhaglen arloesol Not The Nine O'Clock News, ac mae ei gyfresi dogfen niferus wedi ennill bri y beirniaid.