Jimeoin

See dates and times  

Noson hynod ddoniol na ddylech ei cholli gydag un o wir feistri comedi byw sydd mor boblogaidd – rydyn ni’n eithriadol falch o groesawu un o gewri mwyaf y byd stand-yp, sef Jimeoin, i Wrecsam!

Efallai eich bod chi’n un o’r cannoedd ar filiynau o gefnogwyr sydd wedi gwylio ei glipiau comedi ar-lein, neu efallai eich bod chi wedi gweld ei ymddangosiadau hynod ddoniol ar y teledu ar Live at the Apollo, The Royal Variety Performance neu Conan O’Brien... ond does DIM BYD yn well na gweld y jôcfeistr Gwyddelig yma lle mae fwyaf cartrefol – yn fyw ar y llwyfan!