Halloween in Concert

See dates and times  

Noson ddychrynllyd o dda o ganeuon gwych i’r teulu cyfan!

Wrth i’r nos dywyll gau am y wlad, ymunwch â’n cast a’n band byw anhygoel ni. Gyda delweddau llwyfan syfrdanol a chynhyrchiad cwbl fodern, mae cyfle i chi brofi crescendo anhygoel o bopeth sy’n ymwneud â Chalan Gaeaf… ond fymryn yn wahanol!

Dewch wedi gwisgo i greu argraff - gyda gwobr i’r enillydd, wrth i ni setlo yn ein seddi ar gyfer The Music of the Night, yn y cyngerdd newydd sbon yma, Thriller, sy’n gwbl arallfydol!

Gan gynhyrchwyr Step Into Christmas, mae’r sioe atmosfferig yma’n dod â rhai o’r caneuon gorau erioed yn ôl yn fyw mewn un cynhyrchiad trydanol. Gyda chaneuon sy’n cynnwys - Monster Mash, Highway to Hell, The Time Warp, Running Up That Hill, Hungry like the Wolf, Maneater, Bat out of Hell, It's a kind of Magic, She Wolf, ac wrth gwrs Thriller!

Bydd canu, chwerthin a rhywfaint o Dancing in the Moonlight efallai, wrth i ni ddathlu hud Calan Gaeaf, am un noson yn unig!

Bachwch eich tocynnau nawr, fe fyddan nhw wedi mynd mewn fflach!