Illegal Eagles

See dates and times  

Mae'r Illegal Eagles yn eu hôl yn 2027 gyda'u taith newydd sbon ‘Their Greatest Hits’, i ddathlu albwm chwedlonol yr Eagles, Their Greatest Hits (1971–1975) - yr albwm cyntaf erioed i gyrraedd statws platinwm pedwarplyg ac un o'r recordiau a werthodd fwyaf erioed.

Ar gyfer y daith arbennig yma, bydd cynulleidfaoedd yn profi'r albwm eiconig yn cael ei berfformio'n llawn, gan gynnwys clasuron fel Take It Easy, Lyin' Eyes, One of These Nights a Desperado.

Mae'r noson hefyd yn cynnwys ffefrynnau o bob rhan o gatalog nodedig yr Eagles, gan gynnwys Hotel California, Life in the Fast Lane

a mwy. Gyda cherddoriaeth ragorol a degawdau o brofiad, mae'r Illegal Eagles yn cyflwyno profiad cerddorol byw cwbl fythgofiadwy.