Islands in the Stream

See dates and times  

Gadewch eich pryderon 9 tan 5 wrth y drws a byddwch yn barod am noson wych yn dathlu cerddoriaeth fythgofiadwy Dolly Parton a Kenny Rogers.

Mae Islands in the Stream yn cyfuno cynhesrwydd, steil a phersonoliaeth unigryw Dolly gyda swyn a charisma Kenny mewn dathliad diguro o ddau o wir gewri’r byd cerddoriaeth canu gwlad.

Wrth i ni ddathlu gwaddol rhyfeddol Dolly nawr ochr yn ochr â gwaddol Kenny, mae'r caneuon oesol yma’n teimlo'n fwy arbennig nag erioed. Cyfle i gydganu gyda chaneuon eiconig fel Jolene, 9 to 5, Here You Come Again, I Will Always Love You, Ruby, Lucille, The Gambler, Coward of the County ac, wrth gwrs, y gân oesol, Islands in the Stream.

Gyda lleisiau syfrdanol, dawn gerddorol ragorol a repertoire yn llawn rhai o’r anthemau canu gwlad mwyaf poblogaidd, dyma noson i ganu, gwenu a dathlu'r gerddoriaeth sydd wedi golygu cymaint i gynifer o bobl.