O ble mae'n cael y cyfan? Ymadrodd cyffredin a glywir y tu allan i sioe Jason Byrne wrth i’r dorf adael gyda llawenydd llwyr yn eu calonnau. Mae Jason â’i Head In the Clouds yn llythrennol y rhan fwyaf o’r amser, ond diolch byth, pan mae ar y llwyfan yn bennaf!
Mae’r chwerthin yn afreolus wrth i ni wylio Jason yn tynnu hud o’i ben cymylog i lawr i’r llwyfan. Boed yn stand-yp stormus, hwyl tawel neu aelodau'r gynulleidfa gyda chymylau ar eu pennau yn llythrennol. Dewch i ymuno â Jason yn y cymylau am noson o anhrefn hyfryd, anrhagweladwy a fflyfflyd.