Lush! - An Evening with Joanna Page

See dates and times  

Ymunwch â seren Gavin and Stacey a’r trysor cenedlaethol, Joanna Page, wrth iddi rannu ei stori'n llawn am y tro cyntaf.

O bentref bach ar gyrion Abertawe i setiau rhai o'r ffilmiau a'r rhaglenni teledu gorau erioed - fel Love Actually a Gavin & Stacey - mae siwrnai Joanna Page i fod yn seren wedi bod yn un ryfeddol.

Yn ei hunangofiant doniol, gonest ac annisgwyl yn gyson, 'Lush!: My Story', mae Joanna yn mynd â ni y tu ôl i lenni ei rhannau mwyaf eiconig ac yn ein cyflwyno ni i gast lliwgar gan gynnwys Ruth Jones, James Corden, Richard E. Grant, Johnny Depp, Liam Neeson ac Emma Thompson.

Wrth ymdopi â chlyweliadau cynnar lletchwith a digwyddiadau anghyfforddus eraill, mynd ar drywydd ei chyfle mawr, ‘marchogaeth’ llwyddiant (yn llythrennol weithiau), syrthio mewn cariad, neu ddarganfod hud a gwallgofrwydd bywyd fel mam i bedwar o blant, mae Joanna yn siarad yn agored am yr hyn sydd wir ei angen i lwyddo yn y byd actio wrth aros yn driw hefyd i chi'ch hun.

Mae pob tocyn yn cynnwys copi o lyfr Joanna, Lush!: My Story.