Mae Jen Brister yn ‘Adweithiol’ - neu dyna mae rhywun wedi’i ddweud wrthi beth bynnag. Yn ôl pob tebyg, does dim rhaid i chi ymateb i bob peth bach o'ch cwmpas chi. Gan ei bod hi'n cael ei chythruddo’n gyson wrth boeni am gyflwr y byd a phobl yn gyffredinol, mae Brister wedi cael gwybod bod angen iddi jyst ymlacio. Fedr Jen ddod o hyd i ‘zen’? Mae'n annhebygol, a dweud y gwir…
Mae Jen yn gomedïwraig stand-yp ac yn awdur sydd wedi ennill bri’r beirniaid, fel y gwelwyd ar Live at the Apollo, Frankie Boyle's New World Order, QI a Mock The Week ar y BBC. Yn dilyn taith a werthodd bob tocyn yn 2022, mae Jen yn ôl ar y ffordd gyda'i sioe newydd y mae disgwyl mawr amdani.
Adolygiadau
- Furiously Funny.The Guardian
- Her energy is explosive. Her use of space and delivery, mesmerising.The Sunday Times