John Barrowman, Laid Bare - ei sioe fwyaf newydd, yn ddi-ildio a heb ei sensro am ei angerdd am fywyd a’i gariad mawr at gân a stori.
Yn LAID BARE, mae pob cân, boed yn glasur Broadway neu’n boblogaidd gyfoes, yn arddangos steil dihafal John a’i lais disglair. Mae ei straeon a’i hanesion personol yn llawn ffraethineb brwd, cyfaredd Albanaidd, a’i egni heintus.
Mae’n fwyaf adnabyddus am ei rôl arloesol fel Capten Jack Harkness yn Doctor Who a Torchwood, Malcolm Merlyn yn Arrow a'i sioeau adloniant niferus ar nosweithiau Sadwrn. Roedd John yn feirniad ar Dancing On Ice, Any Dream Will Do, How Do You Solve a Problem Like Maria, ac I'd do Anything. Fel cystadleuydd enwog, mae wedi ymddangos ar I’m a Celebrity… Get Me Out of Here a Strictly Come Dancing.
Mae ei waith cerddorol helaeth yn y West End ac ar Broadway yn cynnwys rhannau blaenllaw yn Anything Goes, Sunset Boulevard, Chicago, Evita, Miss Saigon, Company, Beauty and the Beast a Phantom of the Opera.
Mae Laid Bare yn fwy na chyngerdd - mae'n ddathliad o gelfyddyd, angerdd, a llawenydd cerddoriaeth. Dyma sioe y byddwch chi'n ei chofio am amser hir.
Cynigion Ychwanegol
Tickets do not include Q&A and soundcheck or post-show meet and greet. You must have a valid ticket for the main show before purchasing these additional extras.