Legends of the 60s

See dates and times  

Ymunwch â chast o gerddorion a chantorion arobryn hynod dalentog - Stephen, Raymond a Chris - ar gyfer y sioe sy’n gampwaith cerddorol, Legends of the 60s.

Bydd y sioe sy’n siŵr o wneud i bawb deimlo'n dda yn eich cludo chi'n ôl dan glapio eich dwylo, siglo a chanu i'r degawd aur hudolus hwnnw, sef y 1960au. Os ydych chi'n dod i ail-fyw atgofion eich plentyndod neu os ydych chi dim ond eisiau gweld yr hyn mae eich rhieni wedi bod yn ei ganmol ers yr holl flynyddoedd, dyma'r sioe fyw orau i'w gweld.

Yn perfformio teyrngedau o ansawdd uchel i eiconau fel Elvis, The Beatles, The Monkeys, The Rolling Stones, Roy Orbison, Tom Jones, Cliff Richard, The Beach Boys a'r Drifters, i enwi dim ond rhai, i gyd mewn un noson, gadewch i ni gyflwyno profiad cerddorol byw hynod ddifyr i chi sy'n cynnwys mwy na 40 o ganeuon poblogaidd eiconig na fydd byth yn cael eu hanghofio!