Gefnogwyr y Beatles, byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan fand teyrnged mwyaf poblogaidd y byd i’r Fab Four sy'n hanu o Lerpwl.
O’r gwisgoedd, yr offerynnau, ffraethineb hy y Sgowsars ac, wrth gwrs, y sain wych honno oedd mor nodedig o Lannau Merswy y cyfnod, mae sioe lwyfan fyw drawiadol The Mersey Beatles yn ddathliad gwefreiddiol llawn cerddoriaeth a chaneuon gwych a newidiodd y byd.
Yn ystod dwy awr fythgofiadwy, maen nhw’n tywys y gynulleidfa ar siwrnai fendigedig drwy ganeuon ‘mop top’ Beatlemania, creadigrwydd seicedelig Sgt Pepper ac wedyn rhyfeddodau melodaidd ac egni gwaith diweddarach y Fab Four.
Felly, dewch draw ar gyfer y ‘Daith Hanes Hudolus’ arbennig iawn yma – bydd pawb yn siŵr o gael amser gwych!