Luther UK

The Ultimate Luther Vandross Experience!

See dates and times  

Byddwch yn barod am deyrnged drydanol i’r chwedlonol Luther Vandross! Gyda Harry Cambridge yn serennu, mae’r sioe lwyfan syfrdanol yma’n dod â llais melfedaidd, caneuon eiconig a hud llawn enaid Luther yn fyw.

Cyfle i gydganu gyda chlasuron oesol fel Never Too Much, Dance With My Father, a Give Me the Reason, a hefyd teyrngedau i artistiaid gydweithiodd gyda Luther. Gyda band byw 7 aelod ffenomenal yn cefnogi, mae’r cynhyrchiad ar raddfa lawn yma’n cyflwyno goleuo trawiadol, lleisiau pwerus ac awyrgylch cyfareddol.

Mae Harry Cambridge, sy’n adnabyddus am ei berfformiadau rhagorol ledled y DU yn ystod y 6 blynedd diwethaf gyda chyngherddau wedi gwerthu pob tocyn, yn ogystal ag ymddangos ar Stars In Their Eyes ar ITV, wedi syfrdanu cynulleidfaoedd o’r West End yn Llundain i deithiau cenedlaethol. Nawr, eich tro chi ydi profi’r hud!

Peidiwch â cholli’r cyfle – bachwch eich tocynnau nawr am noson fythgofiadwy’n dathlu Luther Vandross!