The Drifters

See dates and times  

Mae The Drifters yn ôl ar daith!

Yn perfformio eu holl glasuron, gan gynnwys Saturday Night at the Movies, You’re More Than A Number, Come on Over to My Place, Under the Boardwalk, Kissin’ In The Back Row a llawer mwy!

Mae’r grŵp chwedlonol wedi cael eu cyflwyno i Oriel Anfarwolion Roc a Rôl, wedi perfformio i Arlywydd yr Unol Daleithiau ac wedi cael eu rhestru ymhlith yr artistiaid Gorau erioed gan gylchgrawn y Rolling Stone.

Mae The Drifters wedi mwynhau adfywiad anhygoel yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda sawl taith lwyddiannus yn y DU, gan gynnwys sioeau arbennig mewn arenas mawr ac, yn fwyaf nodedig, yn y Royal Albert Hall fyd-enwog yn Llundain am y tro cyntaf erioed yng ngyrfa ddisglair y grŵp.