Mark Steel's In Town

Gwen 6 Meh 7:30yh

Mae Mark Steel yn ôl yn y dref. Y tro yma mae'n dod i Wrecsam!

Gyda’i 14eg cyfres ar BBC Radio 4 erbyn hyn, mae'r comedïwr, y colofnydd a’r awdur Mark Steel yn ymweld â chwe thref wahanol ledled y DU. Mae'n ymchwilio i'r hanes, y bobl a'r hynodrwydd i geisio darganfod pa gynhwysion sy'n cyfuno i wneud y llefydd yn unigryw. Wedyn mae'n creu sioe stand-yp bwrpasol am y dref ac yn ei pherfformio o flaen cynulleidfa leol.

Mae'n ddathliad o'r math o lefydd ym Mhrydain sydd â'u straeon cyfareddol eu hunain i'w hadrodd gyda thrigolion sy'n angerddol am yr hyn sydd gan eu tref i'w gynnig. Yn ei hanfod, mae'n araith gwas priodas, ond am le.

Mae'r sioe bellach yn ei 14eg cyfres. Yn flaenorol, mae Mark wedi recordio sioeau mewn mwy na 50 o lefydd diddorol ac anarferol, o Penzance yng Nghernyw i Kirkwall ar Orkney gyda phob stop yn y canol yn cynnwys Aberystwyth, Penbedw, Derry, Boston, Douglas, Hull a Paisley ymhlith llawer, llawer mwy.

Byddem wrth ein bodd yn gweld pobl leol Wrecsam yn mynychu gan mai eich tref chi fydd testun y sioe!

Bydd y tocynnau’n cael eu neilltuo ar sail y cyntaf i’r felin.