Menopause The Musical 2

See dates and times  

Gyda Carli Norris, Maureen Nolan, Rebecca Wheatley a Daniele Coombe yn serennu, rydyn ni’n cyflwyno taith olaf y DU o’r sioe hynod lwyddiannus Menopause the Musical 2.

Yn y dilyniant hynod ddoniol yma i’r Menopause the Musical boblogaidd, a werthodd bob un tocyn, mae pum mlynedd wedi mynd heibio wrth i ni ailymuno â’r un pedwar cymeriad am straeon am eu bywydau, cariadon a cholledion, wrth iddyn nhw hwylio ar y moroedd mawr.

Pyliau poeth, hwyliau anwadal, methu cofio pethau ac ennill pwysau, mae Cruising Through Menopause yn edrych mewn ffordd eithriadol ddoniol, twymgalon a chalonogol ar “lawenydd” y menopos. Pan mae eich bywyd chi ar siwrnai anwadal yn llawn pethau annisgwyl, mae'n anodd dod o hyd i ffrindiau triw a'u cadw nhw. Ond camwch ar fwrdd y llong a byddwn yn mynd â chi ar drip o hunanddarganfod, cariad a chyfeillgarwch gyda thrac sain o ganeuon parodi doniol tu hwnt yn gefndir i’r cyfan!