Mozart is the greatest genius who has ever lived.Haydn
Perfformir gan Bedwarawd LlinynnolHeartwood
Roedd Wolfgang Amadeus Mozart yn arch-seren yn y byd cerddoriaeth glasurol โ yn enwog o oedran ifanc, yn arloesol ac yn doreithiog, ond etoโn ddyn yr oedd ei ffordd o fyw foethus yn bradychu ei frwydrau ariannol, cyn ei farwolaeth ddirgel yn ddim ond 35 oed. Dylanwadodd ei waith ar rai oโr cyfansoddwyr gorau erioed ac maeโn parhau i fod yn ddylanwadol mewn diwylliant poblogaidd heddiw.Mae Master yn dilyn y gerddoriaeth y gwnaeth cyfansoddiadau diweddarach Mozart ddylanwadu arni. Cyfle i ddarganfod sut roedd arddull Mozart wedi aeddfeddu tuag at ddiwedd ei oes aโi feistrolaeth ar ysgrifennu ar gyfer pedwarawdau llinynnol. Ochr yn ochr รข gwaith ei ffrind Haydn a thalent ifanc Mendelssohn, maeโr cyngerdd hwn yn addo themรขu cerddorol bywiog, alawon dyrchafol ac ysgrifennu arloesol.
Maeโr rhaglen yn cynnwys:
- HAYDN โ Pedwarawd Op.76 rhif 1
- MENDELSSOHN โ Pedwarawd yn E leiaf Op.44
- MOZART โ Pedwarawd yn F K.590
Archebuโr Ddau, Arbed 25%:
Archebwch y ddau gyngerdd Mozart In Motion ac arbed 25%
Arbed hyd at ยฃ12 y person*
*Rhaid archebu'r ddau gyngerdd yn yr un trafodiad | Y cynnig yn amodol ar argaeledd | Yr arbediad llawn yn seiliedig ar brynu tocynnau pris uchaf
Am yr Artistiaid
Mae Pedwarawd Llinynnol Heartwood yn un o'r pedwarawdau gorau sy'n dod i'r amlwg yn y DU. Wedi ffurfio yn 2020 yn y Royal Northern College of Music, maeโr pedwarawd wedi perfformio ledled y DU.