Mugenkyo Taiko Drummers

See dates and times  

Ymunwch â dathliad pen-blwydd nodedig Mugenkyo yn 30 oed, gyda sioe arbennig iawn o guriadau cryf, gwychder gweledol ac egni hanfodol.

Gan fynd â’r gynulleidfa ar siwrnai ‘mewn amser’, taith wefreiddiol drwy eu 30 mlynedd, mae’r cyngerdd yn brofiad theatrig llawn, gyda choreograffi deinamig a rhythmau cadarn yn cyferbynnu â seinweddau atmosfferig.

Fel grŵp taiko hynaf Ewrop, mae Mugenkyo yn cael eu cydnabod yn eang fel arloeswyr a dorrodd dir newydd gyda’r ffurf gelfyddydol gyffrous yma, sy’n gwefreiddio cynulleidfaoedd mewn miloedd o berfformiadau ledled y byd. Maen nhw nawr yn dychwelyd gyda’u taith fawr gyntaf yn y DU ers bron i bum mlynedd.

Yn 2024 maen nhw’n mynd ar daith unwaith eto gyda pherfformiad trydanol a dyrchafol llawn enaid o sgil a stamina, jyst ‘mewn pryd’ ar gyfer y Parti Pen-blwydd arbennig yma! Peidiwch â'i golli!