Siwrnai gerddorol o amgylch Ynysoedd Prydain, o Gernyw i Ynysoedd yr Alban, gan alw heibio Cymru, Iwerddon a Lloegr ar hyd y ffordd.
Arweinydd y cyngerdd fydd Helen Harrison am y tro cyntaf, ac mae'n cynnwys premiere Gogledd Cymru oโr darn Morfa Rhuddlan gan Morfydd Llwyn Owen.
Arweinydd โ Helen Harrison
Cerddorfa Symffoni Wrecsam
Cerddorfa Symffoni Wrecsam yw cerddorfa breswyl Neuadd William Aston.
Sefydlwyd ym 1969 gan y diweddar Bryn Williams, a oedd ar y pryd yn uwch-ddarlithydd Cerddoriaeth yng Ngholeg Hyfforddi Athrawon Cartrefle yn Wrecsam.
Mae'r WSO wedi tyfu eu haelodaeth heddiw gyda dros drigain o chwaraewyr ac yn denu arweinwyr gwadd proffesiynol ac unawdwyr rhagorol yn rheolaidd.
I gael rhagor o wybodaeth am WSO cliciwch yma.