New Dawn Fades

See dates and times  

“It’s certainly the closest I’ll ever get to seeing Joy Division… I could not recommend this musical play more highly.” – The Punk Site

Mae New Dawn Fades yn adrodd stori drydanol, a doniol yn aml, am bedwar bachgen cyffredin a ddaeth at ei gilydd, wedi'u hysbrydoli gan chwyldro pync Manceinion yn y 1970au, i ffurfio un o'r bandiau mwyaf dylanwadol erioed, Joy Division. Yn dilyn marwolaeth annhymig y prif leisydd Ian Curtis, aeth y band ymlaen i sicrhau llwyddiant byd-eang enfawr fel New Order.

Ar gyfer 2027, mae New Dawn Fades yn dod â’r tîm creadigol o daith lwyddiannus y llynedd yn ôl at ei gilydd, gyda'r cynhyrchwyr Nigel Carr a Tony Davidson. Mae’r sioe wedi’i hysgrifennu gan Brian Gorman, sydd wedi ennill sawl gwobr a derbyn llawer o ganmoliaeth am ei bortread o fos Factory Records, Tony Wilson. Mae'n tywys y gynulleidfa drwy galon ac enaid y band a'r ddinas, gan gyflwyno ffigurau hanesyddol, gan gynnwys y Cadfridog Rhufeinig, Julius Agricola, Dr John Dee, Friedrich Engels, Paul Morley, a Pete Shelley o Buzzcocks!

Y canlyniad yw siwrnai gyfareddol yn llawn cariad, angerdd, galar, ac wrth gwrs cerddoriaeth, gydag ysbrydoliaeth o eiriau enigmatig Ian Curtis, a thrac sain yn cynnwys caneuon eiconig o sîn gerddoriaeth y DU ar ddiwedd y 1970au, gan gynnwys Joy Division wrth gwrs.


“New Dawn Fades is a spellbinding and brilliant play about one of the greatest bands of all time. I totally urge anyone left out there who believes in music to go and see it”
- John Robb

“An evocative piece that beautifully captures the heart and soul of Manchester in the 1970s. This is the way, step inside…” - Kevin Cummins

“High risk, high reward… a bold piece of theatre that captures the atmosphere of late-70s Manchester and the creative spark that surrounded Joy Division.” - Manchester Evening News