The Snowman & Slumbersaurus' Christmas Cracker Adventure

See dates and times  

Ymunwch â NEW Sinfonia am uchafbwynt cerddorol tymor y Nadolig, y digwyddiad Teuluol Llawennus gorau yr ochr hon i Begwn y Gogledd!

Bydd ein perfformiad Nadoligaidd hudolus yn cynnwys dangosiad arbennig o'r ffilm Y Dyn Eira gyda'r trac sain syfrdanol yn cael ei berfformio'n fyw gan gerddorfa NEW Sinfonia. Bydd antur Nadoligaidd gyffrous hefyd i'n deinosor cerddorol chwilfrydig Slumbersaurus, sydd angen eich help chi i achub Siôn Corn a'r Nadolig!

Gyda rhaglen yn llawn o'ch hoff ganeuon Nadolig i'w canu, ymweliadau arbennig gan Y Dyn Eira a Siôn Corn, a gweithgareddau crefft Nadoligaidd i bawb, rydym yn cynnig eich holl ddymuniadau Nadolig mewn un sioe llawennus.

  • Robert Guy

    Conductor
  • Lynwen Haf Roberts

    Narrator