Cyfle i brofi noson hudolus o gerddoriaeth gorawl a cherddorfaol wrth i Hosbis Tŷ'r Eos eich gwahodd chi ar siwrnai o adlewyrchu a chofio i obaith a golau. Gyda darlleniadau a straeon yn cael eu rhannu gan ein staff, ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr, bydd y cyngerdd arbennig yma’n dathlu'r bobl a'r gymuned sydd wrth galon yr hosbis
Bydd y noson yn cynnwys perfformiadau rhagorol gan NEW Sinfonia, dan arweiniad Robert Guy, y côr eithriadol boblogaidd, Cantorion Rhos, dan arweiniad Ruth Evans, Rhos Male Voice Choir, Ellesmere College Chapel Choir, a lleisiau anhygoel Elan Catrin Parry a Caitlin Drake.
O eiliadau tawel, myfyriol i ddarnau llawen i godi’r galon, bydd y rhaglen yn eich tywys chi i gydganu a chyd-ddawnsio. Bydd hwn yn ddathliad cyffrous o'r Nadolig, cymuned, ac ysbryd parhaol gobaith, gan eich gadael chi wedi'ch ysbrydoli a'ch llenwi â llawenydd y Nadolig.
Os ydych chi'n ymuno â ffrindiau a theulu, neu'n chwilio am ffordd hudolus i nodi dechrau tymor yr ŵyl, mae Deuddeg Stori’r Nadolig yn noson na ddylech chi ei cholli.