Nightingale House: A Christmas Celebration 2024

See dates and times  

Ty'r Eos yn dychwelyd gyda gwledd Nadoligaidd!

Rydyn ni wrth ein bodd yn cael cyhoeddi ein Cyngerdd Dathlu’r Nadolig, digwyddiad nodedig ar galendr digwyddiadau Wrecsam. Eleni, rydyn ni’n falch iawn o gynnwys perfformwyr poblogaidd fel NEW Sinfonia, Côr Meibion ​​y Rhos ac, yn gwneud eu hymddangosiad cyntaf, y Dee Sign Choir.

Rydyn ni’n arbennig o gyffrous i gyhoeddi y bydd Lucy, a enwebwyd am BAFTA, ac a enillodd galonnau’r genedl ar The Piano ar Channel 4 yn ddim ond 13 oed, yn ymuno â ni. Er ei bod yn gwbl ddall ac yn byw gyda dyblygiad cromosom 16 - cyflwr prin sy'n effeithio ar iechyd meddwl, nodweddion awtistiaeth, a chyfathrebu - mae dawn gerddorol eithriadol Lucy yn parhau i ysbrydoli.


Gyda
  • Lucy

  • Rhos Male Voice Choir

  • NEW Sinfonia

  • Dee Sign Choir