Mae'n amrwd. Mae'n wrthryfelgar. Ac mae'n fyw.
50 mlynedd ers i gerddoriaeth pync a new wave gicio’r drws i lawr, mae Punk Off yn ffrwydro ar y llwyfan – yn fwy swnllyd, yn fwy beiddgar ac yn flerach nag erioed. Ar ôl taith gyntaf herfeiddiol yn 2025, mae’r sioe gyngerdd gwbl unigryw yma’n dychwelyd gyda cherddoriaeth gan Blondie, The Ramones, Sex Pistols, The Clash a mwy.
Nid teyrnged ydi hon – ond terfysg. Dathliad yng ngwir ystyr gwyllt y gair o'r cyfnod a rwygodd y llyfr rheolau a gwneud bod yn swnllyd yn ffordd o fyw. Gyda chast ffyrnig o gerddorion, cantorion a dawnswyr, mae Punk Off yn eich taflu chi’n syth i sîn, synau ac ysbryd cerddoriaeth pync.
Agor oriel o luniau




Cofiwch y bydd y parcio ar gyfer y digwyddiad hwn yn gyfyngedig oherwydd y gêm yn STōK Cae Ras.