Siwrnai o Gerddoriaeth, Cof, a Hud Madchester. Camwch i strydoedd llawn curiad dinas a ddiffiniodd genhedlaeth.
Mae'r profiad theatr trydanol yma’n mynd â'r gynulleidfa ar siwrnai fythgofiadwy drwy galon ac enaid sîn indi Manceinion, o'i charpedi wedi'u staenio â lager i nosweithiau coll o hud Haçienda. Yn cael ei hadrodd drwy lygaid tad yn rhannu ei stori gyda'i fab, mae hwn yn hanes personol, doniol ac emosiynol iawn wedi'i leoli yn erbyn cefndir yr 80au a'r 90au eiconig ym Manceinion.
Meddyliwch am jîns llac, hetiau bwced a chlybiau tanddaearol yn llawn curiadau'r synau newidiodd sîn gerddoriaeth Prydain am byth.
Gyda pherfformiadau byw gan fand byw, byddwch yn cael eich cludo’n ôl i oes yr Happy Mondays, The Stone Roses, Oasis, The Smiths, a llawer mwy. Mae pob nodyn, pob curiad a phob gair yn llythyr serch at ddinas a roddodd enedigaeth i gewri cerddorol ac sydd wedi byw fel pe bai pob un noson yr olaf iddi.
Mae That Night In Manchester yn stori am harddwch poenus, ieuenctid a theulu, ac wrth gwrs y gerddoriaeth sy'n ein cysylltu ni i gyd. Os wnaethoch chi fyw drwy’r cyfnod, ei golli, neu gael eich geni'n rhy hwyr - dyma'ch cyfle chi i'w ail-fyw.