Mae'r secwins yn fwy pefriog, y lleisiau'n uwch a'r gystadleuaeth yn ffyrnig! Gan grëwyr y sioeau llwyddiannus “Drag Me to the Disco” a “The Show With Balls!” cawn sioe drag LLEISIAU BYW newydd sbon, lle mae'r Queenz yn mynd benben yn y frwydr eithaf am oruchafiaeth pop.
Pwy sy'n ennill? PENDERFYNWCH CHI!
Gyda lleisiau pwerus, coreograffi diguro, a gwisgoedd syfrdanol, mae ein difas disglair ni’n camu ar y llwyfan yn barod i frwydro. Byddwch yn barod am Whitney yn erbyn Celine, Gaga yn erbyn Madonna a Beyoncé yn erbyn Britney yn yr ymryson ysgytwol rhwng y difas.
Argaeledd Cyfyngedig - Seddi Ymyl y Cylch!
Ar gyfer nifer cyfyngedig o seddi, nid dim ond golygfa well gewch chi – chi fydd yn rheoli'r sioe. Penderfynu pwy sy'n canu nesaf, pwy sy'n ennill y rowndiau, a wynebu'r cwestiwn eithaf ... pwy sy'n cipio'r goron? Yn rhyngweithiol yn ddigidol ac yn ddoniol o anrhagweladwy, dyma Queenz mewn ffordd gwbl newydd.
*Ymwadiad: Mae’r seddi ymyl y cylch yn amodol ar argaeledd a gallant amrywio o berfformiad i berfformiad. Drwy brynu tocynnau, mae cynulleidfaoedd yn cydnabod bod y profiad yn cynnwys hiwmor oedolion a rhyngweithio byw â'r gynulleidfa. Mae'r cynnwys yn ddigymell, yn anrhagweladwy, ac i gyd yn rhan o'r hwyl.



