Seven Drunken Nights

See dates and times  

Yn syth o’r West End ac wedi llwyddiant aruthrol teithiau ledled y byd, mae Seven Drunken Nights - The Story of the Dubliners yn dod â’r sioe Wyddelig gwbl wefreiddiol yma i theatr yn eich ardal chi.

Ar y cyd â’r dafarn Wyddelig chwedlonol, O’Donoghues, rydyn ni’n eich gwahodd chi i ymuno â chast dawnus o gerddorion profiadol sydd wedi ymrwymo i ddod â cherddoriaeth y grŵp eiconig yma’n ôl yn fyw. Mae’r cynhyrchiad yma sydd wedi ennill bri’r beirniaid yn rhychwantu mwy na hanner canrif, gan ddeffro ysbryd Ronnie Drew, Luke Kelly, Barney McKenna, John Sheahan, Ciaran Bourke a Jim McCann.