Dyn gwyllt y byd roc a drodd yn drysor cenedlaethol. Mae Shaun Ryder, ffryntman Happy Mondays a Black Grape, yn mynd ar daith gyda sioe newydd.
Mae'r seren sydd wedi ymddangos ar fwy o raglenni teledu nag y mae gan unrhyw un hawl i'w wneud, gan gynnwys Celebrity Gogglebox ac I'm A Celebrity Get Me Out Of Here, wedi ailddiffinio'r ffordd o fyw rhyw, cyffuriau a roc a rôl yn ystod cyfnod euraidd Madchester. Mae ar daith i hyrwyddo ei lyfr newydd: Shaun Ryder – 24-Hour Party Person.
Gall cefnogwyr edrych ymlaen at garnifal o ormodedd, straeon gwyllt a gwirioneddau annhebygol wrth iddyn nhw fwynhau talentau seren roc a rôl unigryw sydd wedi cael ei ddisgrifio fel ateb Britpop i WB Yeats.
Byddwch yn barod amdani a dywedwch Hallelujah dros Shaun!




