Mae’r daith yma’n nodi pen blwydd Showaddywaddy yn 50 oed.
Mae ‘The Greatest Rock & Roll Band in The World’ yn ddatganiad beiddgar ond mae Showaddywaddy wedi dangos ei fod yn wir am y 5 degawd diwethaf! Wedi’i ffurfio yn 1973 yng Nghaerlŷr o sawl band lleol, maen nhw wedi gwerthu mwy nag 20 miliwn o recordiau ac wedi teithio i bob cornel o’r Byd yn helaeth.
Bydd eu Cyngerdd i Ddathlu’r 50 yn sioe ddeinamig i godi’r galon gyda rhai o’u caneuon gorau, a llawer ohonyn nhw wedi cyrraedd rhif un yn siartiau pop Ewrop. Under The Moon of Love, Three Steps to Heaven, Hey Rock & Roll, When, Blue Moon, Pretty Little Angel Eyes a llawer, llawer mwy.
Felly dewch i ymuno yn y Dancin’ Party… You’ve Got What It Takes!