P'un a ydych chi'n gefnogwr cerddoriaeth glasurol, neu’n dod o’r newydd at ei grym cyfareddol, mae profiad arbennig yn eich aros yn y cyngerdd syfrdanol hwn dan gyfarwyddyd Hyeyoon Park, y fiolinydd ryngwladol arobryn.
Ymunwch â ni ar daith epig o biazzas prysur a rhamant Florence, lle cyfansoddodd Tchaikovsky ei Souvenir de Florence, i brydferthwch tawel yr afon sy’n gwahanu cefn gwlad Cymru a Lloegr yn A Severn Rhapsody gan Finzi, i Bedwarawd Llinynnol angerddol a gwefreiddiol Fanny Mendelssohn.
Byddwch hefyd yn dyst i berfformiad cyntaf fersiwn Sinfonia Cymru o Goncerto Beethoven i’r Ffidil ar gyfer cerddorfa siambr. Mae’r cyngerdd hwn yn hyfrydwch pur, a dylai fod ar ben eich rhestr o bethau i’w gwneud y gaeaf hwn.