Treuliwch noson yng nghwmni rhyfeddol Sir Ranulph Fiennes OBE, sef - ‘archwiliwr byw gorau’r byd’ wrth iddo fynd y tu hwnt i’w gyflawniadau arloesol i archwilio’r dyn y tu ôl i’r myth.
Yn fyw ar y llwyfan, bydd Sir Ranulph yn rhannu straeon o’i gampau a’i anturiaethau chwedlonol, gan adrodd hanesion di-ri am gampau mwyaf rhyfeddol y byd o feiddio ac archwilio.
Wedi’i chyflwyno yn ei ffordd ddihafal ei hun gyda delweddau syfrdanol na welwyd o’r blaen a fideos cartref, mae’r sioe hon yn sicr o’ch diddanu a’ch ysbrydoli i chwilio am eich anturiaethau bywyd eich hun.