Yn syth o’r West End ac yn sioe sydd wedi’i chymeradwyo gan deulu Rod ei hun, mae Some Guys Have All The Luck yn dathlu un o eiconau mwyaf dylanwadol y DU, Rod Stewart.
Bydd y canwr carismatig, Paul Metcalfe, yn mynd â chi ar siwrnai gerddorol sy’n ymestyn dros chwe degawd o ddechrau digon di-nod yn y clybiau R’n’B i fod yn seren roc fyd-enwog.O’i anthemau roc cynnar fel Maggie May a Stay With Me i’r baledi hyfryd fel The First Cut Is The Deepest a You’re in My Heart, bydd pob cân yn cael ei pherfformio gyda meistrolaeth drydanol ochr yn ochr â gwisgoedd arbennig a cherddorion byw deinamig.