Mae'r Amgueddfa Wyddoniaeth, mewn cydweithrediad ag Asiantaeth Ofod y DU, wedi ymuno â Mark Thompson Productions (a greoddMinistry of Science Live!) i lansio antur theatrig llawn hwyl sy'n eich ffrwydro chi ar siwrnai epig o amgylch y planedau.
Gwibio heibio'r Haul, osgoi stormydd ysgubol ar y blaned Iau, gleidio heibio cylchoedd Sadwrn a mentro allan i'r
cewri rhewllyd ar ymyl ein system solar.
Ar y daith byddwch yn dod o hyd i ffeithiau gwych am blanedau, darganfyddiadau syfrdanol, a chyfrinachau'r hyn sydd ei angen i archwilio’r gofod o ddifrif.
Wedi'i chreu'n arbennig ar gyfer plant 6 i 12 oed (a'r oedolion sydd yr un mor hoff o'r gofod!), mae'r sioe egnïol yma’n llawn delweddau mawr, adrodd straeon gwych a digon o syrpreisys cosmig.
Os ydych chi eisiau bod yn ofodwr yn y dyfodol, yn ffan mawr o syllu ar y sêr, neu ddim ond yn chwilfrydig am beth sydd allan yna, dyma'ch tocyn chi ar gyfer trip bythgofiadwy drwy'r gofod. Gwisgwch eich gwregys. Cyfrif i lawr. A byddwch yn barod i archwilio'r bydysawd gyda The Space Explorers Academy.


