Susie Dent – Word Perfect

See dates and times  

Taith newydd sbon yn rhoi sylw i bleserau’r iaith Saesneg gyda saer geiriau mwyaf poblogaidd Prydain.

Yn dilyn ei sioe lwyddiannus, ‘The Secret Life of Words’, mae Susie Dent yn ei hôl gyda chasgliad newydd sbon o ffeithiau a straeon o fyd rhyfeddol geiriau. Ydych chi wedi meddwl erioed a oes gair am fynd i'r oergell am y pymthegfed tro i chwilio am rywbeth newydd? Neu wedi pendroni ynghylch y rheswm pam mae criw o frain yn cael eu galw’n ‘llofruddiaeth’, a thylluanod yn ffurfio ‘senedd’? Ydi bratiaith pobl ifanc yn eu harddegau wedi’i fwriadu i wneud i ni dynnu gwallt ein pen? A faint o eiriau sydd arnon ni eu hangen am fod yn feddw?

Gyda help enghreifftiau doniol, craff a thrawiadol, bydd Susie yn ein diddanu ac yn ein haddysgu ni gyda’i dewis o uchafbwyntiau mwyaf poblogaidd yr iaith. Bydd Word Perfect yn ein hatgoffa ni o ba mor anrhagweladwy, amrywiol a chwbl hudolus mae’r iaith Saesneg yn gallu bod.