Dilynwch y Yellow Brick Road ar Antur Hudolus!
Ymunwch â Dorothy, Toto, a’u ffrindiau newydd gwych – Scarecrow, Tin Man, a’r Cowardly Lion – wrth iddyn nhw deithio drwy wlad ryfeddol Oz i chwilio am yr enwog Wizard!
Yn llawn gwisgoedd disglair, caneuon fydd yn siŵr o wneud i chi dapio’ch traed, comedi fydd yn creu llond bol o chwerthin a’r Wicked Witch y byddwch chi wrth eich bodd yn gweiddi bŵ arni, mae’r pantomeim hudolus yma’n addo hwyl i’r teulu cyfan. Fydd Dorothy yn dod o hyd i’w ffordd yn ôl i Kansas? Fydd y Wicked Witch yn dysgu gwers? Does ond un ffordd o gael gwybod yr atebion – cliciwch eich sodlau deirgwaith ac archebu eich tocynnau nawr!
Cwmni panto The Delta Academy sy’n cyflwyno The Wizard of Oz – The Panto.
Perfformiadau Ysgolion:
10 Rhag 10am
11 Rhag 10am / 1pm
12 Rhag 10am
Mae'r perfformiadau yma ar gael i'w harchebu ar gyfer ysgolion a grwpiau addysg yn unig. I archebu tocynnau ar gyfer eich ysgol e-bostiwch Rhiannon Isaac - rhiannon.isaac@theatrclwyd.com neu ffoniwch y swyddfa docynnau ar 01352 344101, os gwelwch yn dda.