The Legend of Barry White - Let the Music Play!

See dates and times  

Yn syth o'r UDA, rifiw sydd wedi ennill bri y beirniaid yn cynnwys y canwr anhygoel William Hicks, sy’n cael ei adnabod hefyd fel "y dyn mawr gyda'r llais mawr".

100 miliwn o recordiau wedi'u gwerthu, 20 sengl aur a 10 sengl platinwm - mae'r byd yn caru Barry White ac roedd Barry White yn caru'r byd. You’re the First, the Last, My Everything; Can’t Get Enough of Your Love, Babe; You See the Trouble with Me; Never, Never Gonna Give You Up; Just the Way You Are; What Am I Gonna Do With You ac, wrth gwrs, Let the Music Play... mae cymaint o’i ganeuon wedi cyrraedd y miliwn o ran gwerthiant.

Yn dod o Atlanta, Georgia, mae presenoldeb llwyfan hudolus William yn ail-greu arddull nodedig a llais bas-bariton melfedaidd a llyfn yr enillydd tair Gwobr Grammy yn gwbl ddiymdrech.

Yn ymuno ag o ar y llwyfan mae ei fand byw, Soul Unlimited, a chefnogaeth gan y Motown Supreme Dreamgirls syfrdanol – gyda sylw anhygoel i fanylder, mae'r sioe yma wedi “dod â’r cyfan at ei gilydd” gyda William yn dod “mor agos at y dyn ei hun â sy’n bosibl.”

Os ydych chi’n hoff o Soul a Motown –archebwch eich seddi nawr! Let the Music Play!