The Lion Inside

See dates and times  

Stori i gynhesu’r galon am hyder, hunan-barch a llygoden fechan swil sy'n cychwyn ar siwrnai i ddysgu sut i ruo.

Wedi cael llond bol ar gael ei hanwybyddu a'i hanghofio gan yr anifeiliaid eraill, mae Llygoden yn dymuno gallu rhuo fel Llew. Ond, fel mae’n darganfod, mae hyd yn oed y bobl fwyaf, a mwyaf boslyd, yn ofnus weithiau ... a gall hyd yn oed y creaduriaid lleiaf fod â chalon llew!

Yn seiliedig ar stori hynod lwyddiannus gan Rachel Bright a Jim Field, mae’r addasiad llwyfan newydd sbon yma wedi cael ei gyfarwyddo gan Sarah Punshon (The Jungle Book), gyda cherddoriaeth a geiriau gan Eamonn O’Dwyer (Brief Encounter).

Yn seiliedig ar y llyfr gan Rachel Bright a Jim Field
Addaswyd a Chyfarwyddwyd gan Sarah Punshon
Cerddoriaeth a Geiriau gan Eamonn O’Dwyer

Mae Nicoll Entertainment yn cyflwyno cynhyrchiad Rose Theatre, Curve, MAST Mayflower Studios, ac Unicorn Theatre