The Scummy Mummies

See dates and times  

Noson Allan i Famau!

Mae Helen ac Ellie YN ÔL gyda sioe gomedi newydd sbon a fydd yn gwneud i chi chwerthin nes pi pi yn eich trowsus. O’r menopos i ddynion nawddoglyd, ac o bobl ifanc yn eu harddegau i Tinder, does dim un pwnc yn ddiogel. Yn cynnwys caneuon newydd sbon, sgetsys, stand-yp, ac wrth gwrs, siwtiau cathod newydd sbon yn pefrio.

Dewch â'ch ffrindiau, dewch â'ch mam, dewch â'ch partner os yw'n teimlo'n ddigon dewr... Mae'n barti Scummy mawr!