Walk Like a Man

See dates and times  

Mae Walk Like A Man – The Legacy Tour yn dychwelyd yn 2027, gan ddod â cherddoriaeth fythgofiadwy Frankie Valli & The Four Seasons i theatrau ledled y DU.

Fel yr unig sioe Jersey Boys/Four Seasons i ennill y Gwobrau Teyrnged Cenedlaethol ddwy flynedd yn olynol, mae'r cynhyrchiad trydanol yma'n cynnwys y falsetto uchel, yr harmonïau unigryw a'r egni heintus wnaeth y caneuon yma'n fyd-enwog.

Wedi'i chreu gyda dylanwad cryf y West End, mae'r sioe'n cyfuno coreograffi slic, lleisiau pwerus a sain dilys, caboledig - ochr yn ochr â chyfranogiad llawen gan y gynulleidfa.

Yn cynnwys caneuon eiconig fel Can’t Take My Eyes Off You, Sherry a December, 1963, mae hwn yn ddathliad o gerddoriaeth bop ar ei gorau a fydd yn gwneud i chi deimlo mor dda.