Mae The Best of Bublé – Home for Christmas yn dychwelyd ar gyfer taith gaeaf yn y DU yn 2026. Bublé by Candlelight oedd yr enw blaenorol ac mae’n cynnwys Josh Hindle a'i fand byw syfrdanol.
Yn dilyn galw mawr gan y gynulleidfa, mae'r sioe yma sydd wedi'i hailddychmygu’n cael ei chyflwyno bellach fel sioe theatrig lawn, gan ddarparu'r profiad Bublé eithaf. Byddwch yn barod am lwyfannu trawiadol, goleuo atmosfferig, egni band mawr a'r holl hud, steil a chynhesrwydd sydd wedi gwneud Michael Bublé yn ffefryn byd-eang.
Ymunwch â ni ar gyfer siwrnai Nadoligaidd drwy ganeuon mwyaf poblogaidd Bublé a’i glasuron Nadoligaidd eiconig, wrth i Josh Hindle a'i fand byw berfformio’r hoff ganeuon gan gynnwys Home, Feeling Good, Haven’t Met You Yet, ochr yn ochr â ffefrynnau Nadoligaidd fel Winter Wonderland, White Christmas, Silent Night, Christmas (Baby Please Come Home) a llawer mwy.
Gyda Josh Hindle (a welwyd ar STARSTRUCK ar ITV ac ar daith gyda Jane McDonald) yn serennu, mae'r sioe yma’n cyflwyno sain, swing a soffistigedigrwydd y canwr Nadoligaidd — a’r cyfan wedi'i lapio mewn cynhyrchiad theatr llawn egni sy'n gwneud i chi deimlo'n dda.
Noson allan Nadoligaidd hudolus a’r ffordd berffaith i fynd i ysbryd yr ŵyl, mae The Best of Bublé – Home for Christmas yn un o’r sioeau mae’n rhaid i chi eu gweld y tymor yma.




