Priya Hall

See dates and times  

Mae Priya Hall yn gomedïwraig stand-yp ac yn awdur. Mae hi wedi ymddangos ar Comedy Central Live (Comedy Central), BBC Presents: Stand up for Live Comedy (BBC One a Three), Live From Aberystwyth Pier (BBC One Wales a BBC Radio Wales), Fred At The Stand (BBC Radio 4), Machynlleth Comedy Showcase (BBC Radio Wales), Stand Yp (S4C).

Mae Priya hefyd wedi ysgrifennu a serennu mewn rhaglen beilot ar gyfer BBC 2 Wales ochr yn ochr â Meera Syal, o'r enw Beena and Amrit, ac wedi ysgrifennu a serennu mewn comedi sefyllfa ar gyfer BBC Radio Wales o'r un enw. Mae hi wedi bod yn banelydd gwadd ar The Blame Game (BBC NI), Breaking the News (BBC Radio Scotland), ac yn gapten tîm ar What Just Happened? (BBC Radio Wales). Roedd hi yn rownd gynderfynol Gwobrau Comedi Newydd y BBC 2021. Mae hi wedi ysgrifennu ar gyfer adfywiad y gomedi sefyllfa ar BBC Three, Bad Education, sydd ar gael ar BBC iPlayer.