Yn dilyn ei thaith gyntaf anhygoel, Riawakening (Y Deg Sioe Stand-yp Orau yn 2024 - Telegraph), fe sylweddolodd y deifiol o ddoniol Ria Lina mai nid dim ond jyst effro oedd hi, ond parod i wrthryfela. Gallwch ddisgwyl llif di-baid o ddoniolwch wrth i Ria archwilio cyflwr y byd, brwydr dragwyddol y rhywiau, a hyfrydwch taflu bywyd i fyny yn yr awyr ar รดl blynyddoedd o ddilyn y rheolau.
Yn eithriadol boblogaidd yn y diwydiant, mae'r fenyw yma sydd wedi ennill sawl gwobr yn llwyr reoli'r llwyfan gyda chorwynt o egni ac yn gadael cynulleidfaoedd yn ymladd am eu hanadl oherwydd yr holl chwerthin. Mae ei rhestr helaeth o ymddangosiadau medrus yn cynnwys Live At The Apollo, Have I Got News For You?, Mock the Week, cydgyflwyno Pointless, Lovestruck High, Richard Osmanโs House of Games, The Last Leg a Celebrity Mastermind.
โFearless, provocative, and very funnyโ (The Scotsman) - mae Ria Lina yn gomedรฏwraig, awdures ac actores hynod fedrus. Ar รดl ymddangosiad cyntaf nodedig a sicrhaodd glod y beirniaid ar Mock The Week (BBC), mae Ria wedi dod yn enw cyfarwydd yn gyflym iawn. Yn act sy'n cael ei hedmygu'n fawr ar gylchdaith gomedi'r DU, mae'r artist arobryn ymaโn mynnu parch o'r eiliad mae'n cerdded ar y llwyfan ac yn cyflwyno gyda rhwyddineb, egni a ffyrnigrwydd naturiol. Ria yw'r gomedรฏwraig Filipina amlycaf yn y byd stand-yp ym Mhrydain. Mae ganddi BSc mewn Patholeg Arbrofol, MSc mewn Gwyddoniaeth Fforensig a PhD mewn Feiroleg dan ei belt, felly nid dim ond comedi Ria sy'n hynod ddeallus.
Adolygiadau
- There isnโt a comedy venue in the country that shouldnโt be fighting for her.The Scotsman
- Ridiculously gifted.The Evening Standard
- Engaging, endearing and eye-opening.Time Out
- I have no doubt she will hold her own so easily that sheโll have a hand free to hold someone elseโs too.The Guardian