Aelodaeth Fusnes

Mae cael eich busnes chi i gydweithio â'n busnes ni yn dda i fusnes. Mae gennym ni becynnau aelodaeth yn dechrau ar £500 ar ystod o lefelau gyda buddion gwych i'ch helpu chi i gyflawni eich nodau busnes. Ac mae ein cefnogi ni gydag aelodaeth yn ffordd wych o gefnogi diwylliant lle rydych chi'n byw ac yn gweithio.
Mae Neuadd William Aston yn cael ei gweithredu a’i rhaglennu gan Theatr Clwyd ac mae ein haelodaeth ni’n rhoi’r cyfle i chi gael y gorau o ddau fyd gyda manteision sy’n rhychwantu’r ddau leoliad.
Manteision
- Lletygarwch a Difyrru: gyda dau leoliad gwych, gallwch gynnal digwyddiadau arbennig yn un o’n gofodau unigryw
- Bryn Williams: mae’r Cogydd o fri o Gymru, Bryn Williams, yn dod â’i angerdd dros gynnyrch lleol tymhorol a chynaliadwy i’w fwyty newydd yng nghalon Theatr Clwyd
- Gwobrwyo a Chydnabod Cyflogeion: gallai tocynnau am ddim a chynigion unigryw fod yn ychwanegiad perffaith at eich rhaglen i wobrwyo a chydnabod staff
- Tocynnau am Ddim: gallai tocynnau am ddim agor byd o opsiynau i chi. Defnyddiwch y tocynnau ar gyfer un o'ch hyrwyddiadau, neu roi eich tocynnau i ysgol neu grŵp cymunedol hyd yn oed
- Cyfleoedd Brandio: ewch ati i godi proffil eich brand i fwy na 350,000 o ymwelwyr y flwyddyn neu dargedu cynulleidfaoedd penodol gyda'ch logo ar ein gwefan ni, yn ein rhaglenni a’n pamffledi ac ar sgrin
- Nawdd: gallwn gynnig pecynnau nawdd pwrpasol gyda buddion sy’n gweithio i chi fel tocynnau am ddim, cyfleoedd brandio a chyfleoedd lletygarwch o ansawdd uchel
Pecynnau Aelodaeth
Gallwch weld yr ystod lawn o aelodaeth Fusnes drwy lawrlwytho ein llyfryn yma.
Aelodaeth Fusnes Neuadd William Aston
Mae hwn yn gynnig cyflwyniadol gwych i fusnesau sy'n chwilio am wobrau, anrhegion a dyfarniadau bonws cofiadwy i gyflogeion neu nosweithiau allan dros y Nadolig.
- 320 o docynnau am ddim
- Ardal VIP i groesawu gwesteion,
- Defnydd o'r lleoliad ar gyfer eich Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol neu ddiwrnod cwmni allan o’r swyddfa
- Brandio yn y lleoliad ac ar y wefan ac ar ein byrddau rhestru
£7500 + TAW


Sponsorship
Sponsor the vibrant 5 day Wrexham Comedy Festival at William Aston Hall for access to a wide range of audiences over 5 days. Plus your brand will have strong visibility on our website and in the venue. For more details download the Sponsorship Pack below or contact Janine Dwan.
Diolch i’n holl gefnogwyr ni:


