Ein Cyfeiriad:
Neuadd William Aston, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam, LL11 2AF
Ar Droed:
Rydym wedi ein lleoli ar gampws Prifysgol Glyndŵr ar Ffordd yr Wyddgrug.
- O Orsaf Gyffredinol Wrecsam rydym yn daith 0.3 milltir (tua 8 munud) ar droed i fyny Ffordd yr Wyddgrug tuag at yr A483.
- O Orsaf Ganolog Wrecsam rydym yn daith 0.6 milltir (tua 16 munud) ar droed tuag at Orsaf Gyffredinol Wrecsam ac wedyn i fyny Ffordd yr Wyddgrug tuag at yr A483.
Mewn Car:
Mae’n hawdd cyrraedd ein lleoliad mewn car ac mae gennym ni feysydd parcio mawr ar gael. Byddwch yn ymwybodol, ar gyfer digwyddiadau sydd ar yr un diwrnod â digwyddiadau mawr ar gae Clwb Pêl Droed Wrecsam (Y Cae Ras), y bydd y lle parcio’n gyfyngedig efallai.
- O'r Gogledd (Caer/Penrhyn Cilgwri) Ewch tua'r de i lawr yr A483 hyd at gyffordd 5. Ar gylchfan y gyffordd ewch i'r chwith i Wrecsam ac wedyn ewch yn syth dros y gylchfan gyntaf yn syth ar ôl y gyffordd. Mae’r neuadd ar y chwith i chi ynghyd â maes parcio (os byddwch yn cyrraedd y lein reilffordd rydych chi wedi mynd yn rhy bell!).
- O'r De (Croesoswallt/Yr Amwythig) Ewch tua'r gogledd i fyny'r A483 hyd at gyffordd 5. Ar gylchfan y gyffordd ewch i'r dde i Wrecsam ac wedyn ewch yn syth dros y gylchfan gyntaf yn syth ar ôl y gyffordd. Mae’r neuadd ar y chwith i chi ynghyd â maes parcio (os byddwch yn cyrraedd y lein reilffordd rydych chi wedi mynd yn rhy bell!).
- O'r Gorllewin (Yr Wyddgrug/Rhuthun) Dilynwch Ffordd yr Wyddgrug dros yr A483 i Wrecsam. Ewch yn syth dros y gylchfan gyntaf yn syth ar ôl y gyffordd. Mae’r neuadd ar y chwith i chi ynghyd â maes parcio (os byddwch yn cyrraedd y lein reilffordd rydych chi wedi mynd yn rhy bell!).
- O'r Dwyrain (Crewe/Nantwich/ Whitchurch) Y ffordd hawsaf i'n cyrraedd ni yw drwy ddilyn yr A534 nes ymuno â'r A483 (gan helpu i leihau tagfeydd yng nghanol y dref). Ewch tua'r de i lawr yr A483 hyd at gyffordd 5. Ar gylchfan y gyffordd ewch i'r chwith i mewn i Wrecsam ac wedyn ewch yn syth dros y gylchfan gyntaf yn syth ar ôl y gyffordd. Mae’r neuadd ar y chwith i chi ynghyd â maes parcio (os byddwch yn cyrraedd y lein reilffordd rydych chi wedi mynd yn rhy bell!).
Ar Drên
Mae gennym ddwy orsaf drenau gerllaw.
- O Orsaf Gyffredinol Wrecsam rydym yn daith 0.3 milltir (tua 8 munud) ar droed i fyny Ffordd yr Wyddgrug tuag at yr A483.
- O Orsaf Ganolog Wrecsam rydym yn daith 0.6 milltir (tua 16 munud) ar droed tuag at Orsaf Gyffredinol Wrecsam ac wedyn i fyny Ffordd yr Wyddgrug tuag at yr A483.
Meysydd Awyr Agosaf:
Os ydych chi’n ymweld o dramor, ein meysydd awyr agosaf yw Lerpwl (37 milltir i ffwrdd mewn car), Manceinion (45 milltir i ffwrdd mewn car) a Birmingham (89 milltir i ffwrdd mewn car).