Mae’r parcio yn syml ac yn hawdd i Neuadd William Aston.

Mae digon o le parcio am ddim ar Gampws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam. Yn y maes parcio blaen mae 5 lle parcio lled ychwanegol ar gyfer y rhai sydd â gofynion mynediad.

Sylwch y gall y maes parcio fod yn brysur o bryd i'w gilydd felly gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi digon o amser i chi'ch hun i barcio a chyrraedd y theatr cyn i'r sioe ddechrau.

Mae'r holl geir sydd wedi'u parcio ar Gampws Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi'u parcio ar risg y perchennog.