Mae Theatr Clwyd yn gweithredu Neuadd William Aston.

Theatr Clwyd yw theatr gynhyrchu fwyaf Cymru a’n nod yw gwneud y byd yn lle hapusach un ennyd ar y tro. Rydym yn gwneud hyn drwy osod pobl â straeon ar ein llwyfannau a thrwy roi’r gymuned wrth galon ein gwaith – boed hynny yn ein cartref yn Sir y Fflint neu yn Wrecsam yn Neuadd William Aston.

Adeiladwyd Theatr Clwyd yn 1976 i ddarparu cyfleoedd diwylliannol i bobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru. Mae ein llwyfannau wedi cael eu troedio gan Anthony Hopkins, Vanessa Redgrave, Timothy Dalton ac Owen Teale ymhlith eraill ac yn 2018 roeddem yn falch o ennill Gwobr Olivier ar gyfer Home, I’m Darling gyda Katherine Parkinson a Richard Harrington yn serennu.

Rydym bellach yn cael ein harwain gan y Cyfarwyddwr Artistig, Kate Wasserberg, a’r Cyfarwyddwr Gweithredol, Liam Evans-Ford ac yn cyflawni llawer iawn o waith yn ein hadeilad i gefnogi pobl sy’n byw yn ein cymunedau. Rydym yn gweithio gyda’n bwrdd iechyd lleol ac elusennau iechyd i ddefnyddio’r celfyddydau i gefnogi iechyd meddwl a chorfforol pobl a datblygu prosiectau pwrpasol sy’n cefnogi rhai o’r bobl sydd fwyaf ar y cyrion yn ein cymunedau.