An Evening with Ann Cleeves

See dates and times  

Yn galw ar bawb syn hoff o ffuglen trosedd!

Ymunwch â ni am noson arbennig iawn gyda’r awdur trosedd hynod boblogaidd, Ann Cleeves, a gwestai arbennig, y Patholegydd Fforensig, yr Athro James Grieve, wrth iddyn nhw siarad am lyfr newydd Ann, Dark Wives, ‘yn fyw’ ar y llwyfan gyda’r cyflwynydd teledu Steph McGovern.

Mae Vera Stanhope, seren Vera ar ITV, yn dychwelyd yn yr unfed nofel ar ddeg yng nghyfres arobryn Ann Cleeves sy’n rhif 1 am werthu orau gan y Sunday Times.

Mae corff yn cael ei ddarganfod gan berson syn mynd âi gi am dro yn gynnar yn y bore ar y comin y tu allan i Rosebank, cartref gofal i bobl ifanc yn eu harddegau. Y corff yw Josh, aelod o staff, oedd heb gyrraedd ei waith.

Mae DI Vera Stanhope yn cael ei galw i ymchwilio. Ei hunig gliw yw diflaniad preswylydd pedair ar ddeg oed, Chloe. Dydi Vera ddim yn gallu credu mai merch yn ei harddegau sy'n gyfrifol am y llofruddiaeth, ond fedr hi hyd yn oed ddim diystyru'r posibilrwydd.

Mae Vera, Joe ac aelod newydd o’r tîm, Rosie, wedi ymgolli yn yr achos yn fuan iawn, ond pan mae ail gorff yn cael ei ddarganfod ger meini hirion y Three Dark Wives yng nghefn gwlad gwyllt Northumbria, mae llên gwerin a ffaith yn dechrau gwrthdaro.

Mae Vera yn gwybod bod rhaid iddi ddod o hyd i Chloe i gael gwybod y gwir, ond mae'n ymddangos y gallai'r cyfrinachau tywyll yn eu cymuned fod yn llawer peryclach nag y gallai hi fod wedi'i gredu erioed.

Yr Athro James Grieve oedd patholegydd fforensig y Shetland ac un o batholegwyr uchaf ei barch yr Alban. Ef oedd un o’r ychydig gymeriadau ffeithiol i ymddangos yn y gyfres lyfrau Shetland gan Ann.

Mae Steph McGovern yn newyddiadurwr ac yn gyflwynydd teledu. Roedd yn cyflwyno Steph’s Packed Lunch ar Channel 4 rhwng 2020 a 2023. Bu’n gweithio i’r BBC fel prif gyflwynydd busnes BBC Breakfast.

Mae pob tocyn yn cynnwys copi wedi’i lofnodi o The Dark Wives. Hefyd yn gynwysedig gyda’ch tocyn bydd stori fer unigryw – STRANDED – wedii lleoli ar Ynys Hilbre oddi ar Benrhyn Cilgwri.